Gwasanaeth Ymgynghori a Chreu Dyluniad Personol

Fel rhan o’r gwasanaeth, bydd un o’n tîm profiadol o ddylunwyr yn ymgynghori â chi ac yn paratoi dyluniad unigryw fydd yn gweddu i’ch anghenion chi. Byddwn wedyn yn poblogi’r dyluniad gyda’ch cynnwys cychwynnol fel bod y sgriniau’n barod i fynd!

Unwaith y bydd y dyluniad wedi’i greu, gallwch ddiweddaru’r cynnwys o fewn y dyluniad yn ôl y galw i gadw’r sgrin yn gyfredol ac yn berthnasol. Mewn rhai achosion prin, mae cleientiaid yn dymuno golygu’r dyluniadau eu hunain wedi hyn, ac mae ein system arloesol yn caniatáu i chi, y cleient, i reoli eich dyluniadau eich hun (os oes angen), ond rhaid cofio bod yn ofalus!

Dashfwrdd Gweinyddol

Mae ein dashfwrdd gweinyddol, sy’n hawdd i’w ddeall a’i ddefnyddio, ar gael drwy borwr gwe. Mae’n eich galluogi i ddiweddaru cynnwys a threfnu eich sgriniau yn fyw o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd gyda phorwr gwe. Gellir gweld cipluniau byw o’ch darllediadau o’ch dewislen/sianel, sy’n rhoi rhagolwg cyflym i chi o sut y byddant yn edrych, ac yn darparu cymorth gweledol wrth ddewis pa sianel i’w gweld neu ei golygu.

Teimlwn fod ein system yn hawdd i’w deall a’i ddefnyddio – os oes angen mae canllawiau a fideos defnyddiol ar gael yn y dangosfwrdd.

 

 

 

Amserlennu

Gallwch greu amserlen bwrpasol i’ch sianel er mwyn arddangos darllediadau ar amseroedd gwahanol. Meddyliwch amdano fel sianel deledu. Mae gan sianel deledu lawer o ddarllediadau sy’n cael eu harddangos ar wahanol adegau mewn diwrnod. Gallwch wneud yr un peth gyda’ch sgrin arddangos. Er enghraifft, mewn sefydliad addysg gallwch ddewis gosodiad tebyg i’r isod:

08:00 – 09:00 – Darllediad gyda “Croeso bawb” ac unrhyw wybodaeth berthnasol i’r disgyblion / staff
09:00 – 10:00 – Darllediad gyda newyddion perthnasol i unrhyw ddarpar ymwelwyr/arolygwyr
11:50 – 13:45 – Bwydlen Cinio
15:15 – 15:45 – “Hwyl fawr”

Pan na fydd darllediad penodol wedi’i drefnu, bydd yn dychwelyd i’r darllediad diofyn a ddewiswyd gennych.

Gosodiadau Gwahanol

Ar hyn o bryd mae gennym 8 dyluniad a thempledi darlledu. Teimlwn y bydd hyn yn gweddu i’r rhan helaeth o anghenion unrhyw sefydliad. Mae gan bob templed o leiaf 1 bloc. O fewn bloc, gallwch ychwanegu modiwl. Eich modiwlau yw’r cynnwys sy’n gyrru eich darllediad.

 

 

 

Modiwlau a Nodweddion

Y modiwl a ddefnyddir amlaf yw’r modiwl mewnosod (embed module). Mae hyn yn eich galluogi i fewnosod cynnwys o safleoedd eraill – megis cynnwys cyfryngau cymdeithasol. Mae nifer o sefydliadau’n teimlo fod hon yn nodwedd hanfodol.

Modiwl poblogaidd arall yw’r Oriel Lluniau. Gallwch lanlwytho llun, neu nifer o luniau ar unwaith i’r oriel a byddant yn ymddangos ar eich darllediad ar ôl i chi eu Cadw.

Ar ôl cadw’r gosodiad, caiff y darllediad ei adnewyddu’n awtomatig ar ôl cyfnod byr iawn (o fewn 20 eiliad) felly nid oes angen i chi wneud unrhyw beth iddo ymddangos ar eich caledwedd (sgrin arddangos HD).

Copïau wrth gefn

Mae’r system yn gwneud copïau wrth gefn yn ddyddiol, ond yn ychwanegol at hyn mae opsiwn sy’n galluogi defnyddwyr i wneud copïau wrth gefn o’r data a’r arddull (nid ydym yn gwneud copi wrth gefn o luniau na fideos y gallech fod wedi’u llwytho i fyny). Rydym wedi datblygu’r nodwedd hon er mwyn lleihau risgiau. Pan fydd ein tîm o ddylunwyr profiadol wedi creu eich dyluniad cychwynnol, ac rydych chi’n hapus, byddwn yn cyhoeddi’r sgrin ac yn creu copi wrth gefn o’r dyluniad a’r arddull. Golyga hyn y gallwch bob amser ddychwelyd i’r copi wrth gefn cychwynnol os oes unrhyw newidiadau wedi’u gwneud yn nes ymlaen nad ydych yn hapus â nhw!

Os byddwch yn newid y dyluniad eich hun, a’ch bod yn hapus ag ef, rydym yn eich annog i wneud copi wrth gefn ohono fel y gallwch ddychwelyd ato os bydd angen yn y dyfodol.

 

 

 

Caledwedd

Beth sydd ei angen?

  • Sgrin arddangos (display screen).
  • Cyfrifiadur Windows 10 neu Gyfrifiaduron Raspberry Pi pwrpasol i redeg y system.
  • Cyflenwad trydan, a chysylltiad rhyngrwyd (trwy weiren yn ddelfrydol).

Efallai fod gennych galedwedd addas eisoes – fel arall, mae CYNNAL yn cynnig amrywiaeth o sgriniau, o 32″ – 55″, yn ogystal â chyfrifiaduron a Chyfrifiaduron Raspberry Pi.

Cysylltwch â ni am unrhyw ymholiadau gwerthu neu gyngor arbenigol ar ofynion caledwedd a gosod.