sgriniau Icon

Sgriniau Arddangos

Mae CYNNAL wedi datblygu system unigryw sy’n galluogi defnyddwyr i greu a diweddaru cynnwys eu sgriniau arddangos o unrhyw ddyfais sydd wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd unrhyw bryd. Mae gan y system amrywiaeth o dempledi sy’n caniatáu i’r defnyddiwr greu ei sgrin bwrpasol ei hun. Mae’r system hefyd yn galluogi defnyddwyr i drefnu bod cynnwys gwahanol yn ymddangos ar y sgrin ar adegau / diwrnodau penodol.